Classified ads in London

Cynorthwy-ydd Ymchwil

This advert has expired. Contents may not be accurate any longer.

Salary: £26,060.00 per annum


Greater London, London

Job Advertiser

Work Wales Ltd
Registered: 18 Jun '14
Postings: 12
Followers: 0, Following: 0

Job Reference: JO0000001820

Job Duration:

Start date: January 2024

Description:

Mae 'Work Wales' ar hyn o bryd yn gweithio gyda sefydliad sydd wedi ymrwymo i newid bywydau pobl ifanc ar raddfa genedlaethol drwy bolisi'r llywodraeth.

Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio Cynorthwy-ydd Ymchwil i weithio fel rhan o'u tîm addysg ar gontract tymor penodol tan fis Gorffennaf 2024.



Byddwch yn gweithio ar astudiaeth fawr a mawreddog yn profi ymyriad gwrth-fwlionewydd ar draws mwy na 100 o ysgolion uwchradd. Yn ogystal â helpu i gyflwyno'r ymyriad i ysgolion Cymru, bydd eich cyfrifoldebau yn cynnwys:

* Cyfieithu adnoddau i'r Gymraeg;
* Trefnu ymweliadau i'r ysgolion sy'n cymryd rhan yn y rhaglen, i gwrdd gwrdd â disgyblion 11-15 oed i drafod gwrthdaro yn yr ysgol;
* Grymuso disgyblion i siarad am eu profiadau yn yr ysgol mewn ffyrdd agored ac onest trwy sefydlu perthnasoedd;
* Dilyn arferion gweithio diogel ac addasu i anghenion y disgyblion;
* Ystyried pob ymweliad ac ymateb i beth wnaeth yn dda a beth i newid;
* Cefnogi'r ysgolion trwy'r rhaglen ac ateb unrhyw gwestiynau;* Monitro ac adrodd presenoldeb y disgyblion;
* Datblygu ac awgrymu syniadau i wella'r rhaglen.

Beth sy'n neud ymgeisyddda?

Rydyn ni'n edrych am rywun sy'n deall beth ni'n neud, sy'n rhannu eu'n werthoedd, ac yn awyddus i ddysgu, a datblygu eu harbenigedd. Rydyn ni'n edrych am ymgeisydd gyda'r sgiliau isod. Byddwn ni'n cynnig hyfforddiant a chymorth mewn rhai o'r pethauyma.

* Rheolwr projectau. Rydych chi'n rheoli amser eich hun ac yn cynhyrchu gwaith i ansawdd uchel ar amser.
* Profiad gweithio gyda phobl ifanc (Ffafriol). Rydych chi wedi gweithio gyda phobl ifanc o'r blaen. Neu lai trwy glwb ieuenctid neu chwaraeon. Rydych chi'n gallu rheoli gweithgareddau ac yn hyderus wrth gadw trefn.
* Sgiliau hwylusydd cryf. Rydych chi allu cefnogigrŵp o ddisgyblion i gynhyrchu a datblygu syniadau i'r rhaglen. Rydych chi'n sicrhau bod pawb yn cael eu clywed ac yn ymyrryd os bydd syniadau yn achosi trallod i eraill.
* Cyfathrebu. Rydych chi'n gallu esbonio syniadau cymhleth mewn ffyrdd syml.Rydych chi'n ymateb i gwestiynau a phroblemau yn effeithlon ac yn barchus.
* Aeddfedrwydd. Rydych chi'n dangos hunan ymwybyddiaeth ac yn ystyried yr effaith rydych chi'n cael ar eraill o'ch cwmpas. Rydych chi'n wydn ac yn cymryd cyfrifoldeb am benderfyniadau, hyd yn oed pan mae'r canlyniad yn annymunol.
* Yn ddeall dynameg ysgolion. Rydych chi'n ddeall sut mae ysgolion yn rhedeg, a'r materion allweddol sy'n wynebu athrawon. Rydych chi'n gallu cyfathrebu yn effeithiol gyda'r ysgolion am y rhaglen ac yn datblygu perthnasoedd cryf.
* Sgiliau Excel sylfaenol. Rydych chi allu defnyddio Excel neu Google Sheets i drefnu gwybodaethgymhleth.

Meini Prawf Hanfodol

* Trwydded yrru lawn, lân o'r DU a mynediad i'ch cerbyd eich hun, gan y bydd y rôl hon yngolygu y byddwch yn teithio i'r ysgol ac oddi yno yn ardal De Cymru.
* Rhaid bod yn siaradwr Cymraeg, gan fod yr astudiaeth hon yn cael ei chynnal mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg yn ogystal ag ysgolion cyfrwng Saesneg.

Industry: Education and Training

Salary: Up to £26060 per annum

Salary Benefits:

Vacancy Type: Contract

Job Skills: -

Contact Name: Ryan Jones

Website: -

Direct Application URL: -

Other Similar Jobs in London



Position Details

Advert Ref: #3047054
Posted: 14 Nov '23
Visits: 16